Cynllun Awdurdod Partner
Beth yw’r Cynllun Awdurdod Partner?
Mae tîm rheolaethi adeiladu pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr yn rhannu ein cynllun awdurdod partner. Gallwch ddewis gweithio gyda syrfëwr rheoli adeiladu unrhyw awdurdod lleol i wneud yr holl waith cyn ymgeisio a gwaith dylunio, lle bynnag mae’r prosiect wedi’i leoli’n ddaearyddol; dan rai amgylchiadau, ac os yw’r trefniadau teithio’n ymarferol, caiff yr un syrfëwr hwnnw wneud gwaith arolygu eich safle hefyd.
Who can join the scheme?
Mae pob math o sefydliad yn ymuno â’n cynllun awdurdod partner, o gleientiaid corfforaethol mawr i fusnesau bach a chanolig; maent yn elwa’n fawr iawn o gael syrfëwr rheoli adeiladu ymroddedig sy’n gallu ateb eu cwestiynau.
Bydd eich rheolwr cyfrif yn cysylltu â chydweithwyr rheolaethi adeiladu awdurdod lleol yn lleoliad y prosiect i drafod materion penodol i’r safle megis draenio, difwyno a chysylltu â’r gwasanaeth tân lleol. Rydym hefyd yn cydweithio’n agos â Gogledd Iwerddon a’r Alban i reoli cyfrifon a darparu cyswllt.
Mae llawer o'ch cyd-adeiladwyr a'ch penseiri eisoes yn aelodau o Gynllun Awdurdod Partneriaid LABC, felly os nad ydych eto'n un - rydych chi'n colli allan.
Rhai o fanteision cofrestru â Chynllun Awdurdod Partner yr LABC
- Un pwynt cyswllt i’ch holl waith rheolaethi adeiladu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
- Prisiau cystadleuol ar niferoedd uchel o waith ailadroddus neu ddatblygiadau mawr
- Archwiliadau safle gan dîm proffesiynol lleol â chysylltiadau lleol a gwybodaeth amhrisiadwy
- Ffioedd a threfniadau anfonebu symlach
- Cyflwyniadau electronig ac e-weithio
- Defnyddio’r logo Partner LABC ar eich holl ddeunydd marchnata
- Mynediad rhwydd at yr adran gynllunio, y peirianwyr priffyrdd a’r gwasanaeth tân lleol
- IArbenigedd manwl ar adeiledd, tân, acwsteg, gwarantau, mynediad, halogiad, ynni a chynaliadwyedd gan arbenigwyr LABC.
Rhagor o wybodaeth
Yr oll y mae angen i chi ei wneud i ddechrau manteisio ar y buddion hyn yw llenwi ein ffurflen gais ar-lein.
Gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost i pas@labc.co.uk neu drwy ein ffonio ar 0207 091 6860