Yn well gyda'n gilydd
Rhwymo'r tîm
Mae'r LABC ynghyd ag adeiladwyr proffesiynol yn gweithio gyda chleientiaid i gynnal edau aur ansawdd.
Mae gennyn ni berthynas weithredol â'r canlynol:
- Datblygwyr
- Penseiri a dylunwyr
- Peirianwyr proffesiynol
- Syrfewyr meintiau
- Contractwyr
- Rheolwyr portffolios eiddo
- Rheolwyr prosiectau
- Pa bynnag sector rydych chi'n gweithio ynddo yn y diwydiant adeiladu, gallwn ni roi cyngor rhagweithiol a gwasanaeth proffesiynol o'r radd flaenaf.
No matter which sector of the construction industry you work in, we'll provide proactive advice and a top-notch professional service.
Gyda'n cymorth ni, gallwch chi gadw'r edau aur yn gyfan drwy eich prosiect i gyd.
Mae mor hawdd ag LABC...
Hwb Safonau'r Adeiladwyr Proffesiynol
Cofrestrwch am ddim ar ein Hwb Safonau i gael cynnwys sydd wedi'i guradu'n arbennig fel: fideos, safbwyntiau a barnau, adroddiadau ac ymchwil, dadansoddiadau o faterion yn ymwneud â safonau, cyfleoedd DPP a mwy.
I ddatblygwyr
Mae ein timau Rheoli Adeiladu profiadol yn gallu rhoi cyngor a chefnogaeth ynglŷn â'r rheoliadau adeiladu a gwasanaethau ymgynghori hollbwysig eraill sy'n ymwneud ag amrywiaeth eang o brosiectau, mawr neu fach.
Cynlluniau cofrestru
Mae gennyn ni dri chynllun â'r bwriad o symleiddio'r broses adeiladu i gynhyrchwyr, gosodwyr, datblygwyr, syrfewyr rheoli adeiladu a defnyddwyr terfynol adeiladau:
Gwasanaethau LABC
Mae angen nifer o gyfrifiadau, tystysgrifau, gwiriadau a phrofion i ategu cais Rheoliadau Adeiladu.
Gall Ymgynghori'r LABC drefnu'r rhain drwy gynghorau lleol am brisiau masnachol cystadleuol heb amharu ar annibyniaeth y broses o asesu'r cynllun ac archwilio'r safle.
Hyfforddiant a chymwysterau
Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau DPP, gan gynnwys rheoliadau adeiladu i ddylunwyr, penseiri a rhagnodwyr, adeileddau peryglus, tân, draenio a rheoli digwyddiadau cyhoeddus. Rydyn ni hefyd wedi cyflwyno Diplomâu Syrfewyr Rheoli Adeiladu a byddwn ni'n cynnig cwrs Gradd Anrhydedd.
Canllawiau Rheoliadau Adeiladu
Dogfennau Cymeradwy a chanllawiau ychwanegol i Gymru a Lloegr, llyfrgell adnoddau, archif dogfennau yn ogystal â ffocws ar beth sy'n bwysig ym myd rheoli adeiladu.
Gwasanaeth lleol, yn genedlaethol
Bydd ein rhwydwaith cenedlaethol o dros 3,000 o weithwyr rheoli adeiladu proffesiynol yn eich arwain â'n harbenigedd lleol, gan roi cyngor diduedd am y rheoliadau adeiladu am bris cystadleuol.