Elusen y flwyddyn yr LABC 2019 – We Build The Future
Eleni, mae Llywydd yr LABC, Dave Sharp, wedi dewis yr elusen sector adeiladu ac amgylchedd adeiledig We Build The Future fel elusen y flwyddyn 2019.
Cafodd yr elusen We Build The Future ei sefydlu i helpu pobl i guro canser, a dyma eu tri amcan allweddol:
- Cefnogi pobl sy'n gweithio yn y sector adeiladu ac amgylchedd adeiledig ac sy'n wynebu'r her o ymdrin â chanser yn eu bywydau.
- Ariannu ymchwil sy'n gallu helpu i gyflymu gwelliannau o ran atal, canfod a thrin canser.
- Hybu iechyd a lles yn y sector adeiladu ac amgylchedd adeiledig er mwyn helpu i leihau'r risg bod pobl yn datblygu canser yn y lle cyntaf.
Mae dros 3 miliwn o bobl yn gweithio yn y sector adeiladu ac amgylchedd adeiledig, a drwy roi ychydig bach gallan nhw helpu i gyflymu gwelliannau o ran goroesi ar ôl canser, a helpu i adeiladu dyfodol lle mae mwy o bobl yn curo canser.
Tudalen JustGiving yr elusen mae Llywydd yr LABC, Dave Sharp, wedi'i dewis
Mae We Build The Future yn gweithio i sicrhau bod y cyngor cywir ar gael i sicrhau bod pobl yn y sector adeiladu ac amgylchedd adeiledig yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt. I wneud hyn, maen nhw'n codi arian er mwyn gallu ffurfio partneriaethau â mudiadau arbenigol fel Cancer Research UK, sy'n darparu rhaglenni allgymorth ac addysg i wella ymwybyddiaeth o ganser, helpu pobl i wybod sut i leihau'r risg o ganser a chynorthwyo â diagnosis cynnar.
"Rydyn ni i gyd yn adnabod pobl sydd wedi teimlo effeithiau canser yn ein bywydau gwaith a hefyd yn ein bywydau personol. Bydd fy newis ar gyfer Elusen Llywydd yr LABC 2019 yn codi arian i ddwy elusen sy'n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae We Build The Future yn anelu i drawsnewid cymorth a gofal canser yn y sector adeiladu, fel bod pobl sy'n gorfod ymdrin â chanser yn cael y cymorth sydd ei angen – ac mae Cancer Research UK yn arwain y byd o ran ariannu Ymchwil Canser. Bydd pob punt a godwn ni eleni'n helpu i drechu canser yn gynt, ac yn helpu'r bobl fwyaf anghenus yn ein sector."Llywydd yr LABC, Dave Sharp