Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol
Gwasanaethau diduedd a phroffesiynol ledled Cymru a Lloegr.
Ydych chi'n ymestyn, yn adnewyddu neu'n adeiladu eich cartref? Mae rheoli adeiladu'n rhoi tawelwch meddwl i chi – cewch chi weld yma sut gallwn ni eich helpu chi.
Gallwn ni weithio gyda chi ar eich prosiectau i'ch arwain chi drwy'r rheoliadau adeiladu, o ddylunio hyd at gwblhau.
Adnoddau technegol, dysgu a chymwysterau, marchnata, safonau, ISO a gwasanaethau cynghori awdurdodau lleol.
Mae'r Rheoliadau Adeiladu yn sicrhau bod pob adeilad yn ddiogel, yn iach, yn gynhwysol ac yn perfformio'n dda.
Mae ein hadran canllawiau yn cynnwys y set lawn o Ddogfennau Cymeradwy Cymraeg a Saesneg, adnoddau technegol ac arbenigedd i helpu â'ch prosiectau adeiladu ac i fodloni gofynion y Rheoliadau Adeiladu.

Mae'r LABC yn gasgliad o holl arbenigedd, sgiliau ac adnoddau rheoli adeiladu dros 3,000 o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr. Rydyn ni'n gweithio gyda pherchenogion tai, dylunwyr, gweithwyr adeiladu proffesiynol a gwneuthurwyr i sicrhau bod prosiectau adeiladu'n bodloni'r safonau a ddiffinnir yn y rheoliadau adeiladu.
Mae gwneud pethau'n iawn mor hawdd ag LABC!
Rydyn ni'n darparu amrywiaeth o wasanaethau pwysig, o asesiadau risg tân a pheirianneg i gyngor, profion a chyfrifiadau ym meysydd egni a chynaliadwyedd. Mae gweithio drwy gynghorau lleol yn golygu ein bod ni'n gallu cynnig prisiau cystadleuol a gwasanaeth effeithlon, trwyadl. Rydyn ni yma i helpu.
Mae ein rhwydwaith cenedlaethol o syrfewyr yn darparu gwasanaethau rheoli adeiladu i chi yn lleol. Rydyn ni'n ddiduedd, ac rydyn ni yma i'ch amddiffyn chi.