Skip to main content

Rydych yma

Perchnogion Tai

Q. A oes angen i mi wneud cais rheoliadau adeiladu wrth osod ffitiad rheoledig mewn adeilad eithriedig?

A. Roedd canllawiau gan gyn-Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (ODPM) yn 2005 yn dweud, os yw’r adeilad yn ‘adeilad sengl bach’ fel y’i diffinnir yn Atodlen 2 y Rheoliadau Adeiladu, nid yw’r rheoliadau’n berthnasol i’w godi nac i unrhyw waith a wneir iddo wedi hynny cyn belled â’i fod yn dal i fod yn adeilad bach sengl.

Cadarnhawyd hyn yn ddiweddarach gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) lle nodwyd nad yw’r sefyllfa wedi newid a bod unrhyw waith i ffitiadau rheoledig wedi’i eithrio. Dywedodd y DCLG hefyd fod yr unig reolaeth yn ymwneud â Rhannau G a P rheoliadau 9(2) a (3) Rheoliadau Adeiladu 2010.

Q. A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar fy mhrosiect adeiladu?

A. Mae angen i’r rhan fwyaf o brosiectau adeiladu – hyd yn oed estyniadau bach, tynnu waliau mewnol neu welliannau – gydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu. Mae hyn yn wir mewn achosion lle nad oes angen caniatâd cynllunio. Felly, mae bob amser yn well gofyn am gyngor gan dîm rheolaethi adeiladu eich cyngor lleol.

Q. Beth am welliannau llai o gwmpas y tŷ?

A. Nid oes angen caniatâd rheoliadau adeiladu i wneud rhai mathau o waith adeiladu neu welliannau mân, megis codi siediau, pyrth neu gysgodfeydd ceir. Y rheol gyffredinol yw os ydynt yn fach (llai na 30m2), wedi’u hadeiladu o ddefnydd sydd ddim yn hylosg, wedi’u gwahanu o adeiladau neu dir cyfagos ac nad ydynt yn cynnwys llety cysgu, eu bod wedi’u heithrio. Fodd bynnag, mae bob amser yn well gwirio gyda thîm rheoli adeiladu eich cyngor lleol cyn dechrau gwaith.

Caiff mathau eraill o fân welliannau – megis gosod gwres canolog – gael eu gwneud gan ‘bersonau cymwys’.. Ewch i’r wefan personau cymwys..

Q. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng caniatâd cynllunio a rheoliadau adeiladu?

A. Mae caniatâd cynllunio’n fwy o fater o benderfynu beth allai gael effaith andwyol ar eiddo cyfagos a’r amgylchedd yn gyffredinol. Mae’r rheoliadau adeiladu, ar y llaw arall, yn gosod safonau dylunio ac adeiladu; bydd y tîm rheoli adeiladu’n archwilio gwaith adeiladwyr a phenseiri i sicrhau bod prosiectau wedi’u hadeiladu’n iawn a’u bod, ar ôl eu cwblhau, yn ddiogel ac yn gyfforddus i bobl fyw ynddynt.

Q. Sut ydw i’n gwneud cais am gymeradwyaeth rheoli adeiladu?

A. Siaradwch â’ch tîm rheolaethi adeiladu lleol a fydd yn gallu eich helpu i benderfynu beth yw’r ffordd fwyaf priodol o ymgeisio. Yn gyffredinol, mae dau fath o geisiadau am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu: Cynlluniau llawn (ar gyfer gwaith mwy fel rheol) a Hysbysiadau Adeiladu (ar gyfer gwaith llai fel rheol). Bydd y ddau o’r rhain yn golygu bod rhaid i chi dalu ffi i’ch cyngor lleol. Neu gallwch ddysgu mwy drwy ddarllen ein canllawiau ar ddechrau gwaith adeiladu.

Q. Rydw i’n meddwl gwerthu fy nhŷ – fydd arna’i angen cymeradwyaeth am waith adeiladu a wnaethpwyd cyn i mi fod yn berchen ar y tŷ?

A. Os cafodd eich tŷ ei wella neu ei ymestyn gan berchennog blaenorol, bydd angen i chi fod â’r ardystiad priodol ar ei gyfer pan fyddwch yn ei werthu. Os nad yw’r tystysgrifau adeiladu perthnasol gennych, cewch ymgeisio am ‘reoleiddio’ – cymeradwyaeth ôl-weithredol. Bydd un o syrfewyr rheolaethi adeiladu’r cyngor lleol yn asesu’r gwaith i weld a yw’n cyrraedd y safon ac, os nad yw, yn argymell gwelliannau er mwyn iddo gyrraedd y safon fel y gall gyhoeddi’r tystysgrifau priodol. Bydd rhaid i chi dalu ffi i’ch cyngor lleol.

Q. Faint fydd hyn yn ei gostio?

A. Bydd hynny’n dibynnu ar natur y prosiect, y math o gais a’r ardal cyngor lleol lle’r ydych yn byw. Nid yw timau rheolaethi adeiladu cynghorau lleol yn cael adennill mwy o arian na chost y gwaith y maent yn ei wneud; nid ydynt yn gwneud elw ar eu gwasanaethau. Mae hyn yn wahanol i ‘Arolygwyr Cymeradwy’ preifat sy’n cael gwneud elw ar eu gwaith. Cysylltwch â thîm rheoli adeiladu eich cyngor lleol i gael mwy o wybodaeth.

Q. Felly sut mae’r broses gymeradwyo’n gweithio?

A. Pan fydd tîm rheolaethi adeiladu eich cyngor lleol yn cymeradwyo eich cais, fel rheol cewch ‘Gynllun Gwasanaeth Arolygu’ cyn i chi ddechrau’r gwaith. Mae hwn yn amlinellu’r camau gwaith y bydd angen eu harolygu. Bydd yn amrywio gan ddibynnu ar faint a chymhlethdod eich prosiect, oed eich cartref, y math o adeiladwaith, amodau’r tir a phrofiad eich adeiladwr.

Bydd angen i chi hysbysu tîm rheolaethi adeiladu eich cyngor lleol pan fyddwch yn dechrau a phan fyddwch yn cyrraedd y camau sydd wedi’u hamlinellu yn eich Cynllun Gwasanaeth Arolygu er mwyn i’r syrfewyr allu ymweld â’r safle.

Cyn gynted ag y bydd y gwaith wedi’i gwblhau a bod tîm rheolaethi adeiladu eich cyngor lleol yn fodlon ag ef, cewch ‘Dystysgrif Cwblhau’ i ddangos bod yr holl waith yn cyrraedd y safon.

Q. Pa mor hir mae’n ei gymryd i brosesu cais?

A. Ar gyfer cais drwy Hysbysiad Adeiladu, nid oes cynlluniau manwl i’w harchwilio a’u cymeradwyo felly cewch ddechrau’r gwaith cyn gynted â bod yr hysbysiad wedi’i dderbyn – fel rheol o fewn 48 awr. Gyda chais Cynlluniau Llawn, rhaid i’r cynlluniau gael eu harchwilio’n drwyadl cyn iddynt gael eu cymeradwyo. Ac mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i gyngor roi penderfyniad am gais o fewn pum wythnos ar ôl ei gael (oni bai bod hyn yn cael ei ymestyn gyda’ch caniatâd ysgrifenedig chi), ond mae fel arfer yn cymryd llawer llai o amser na hyn.

Mae cymeradwyaeth i gynlluniau adeiladu’n para tair blynedd ac os na ddechreuwch y gwaith yn y cyfnod hwnnw, efallai y gwnaiff eich cyngor gyflwyno hysbysiad i chi’n datgan bod eich cynlluniau’n “ddieffaith” – sy’n golygu y bydd angen i chi gyflwyno cais newydd.

Q. A gaf apelio os caiff fy nghais Cynlluniau Llawn ei wrthod?

A. Yr unig reswm y ceir gwrthod cynlluniau yw am nad ydynt yn bodloni gofynion technegol y rheoliadau adeiladu. Os yw hyn yn digwydd, bydd eich cyngor yn rhoi gwybod i chi ac yn rhoi’r cyfle i chi i ailgyflwyno cynlluniau wedi’u newid. Os nad ydych yn cytuno â dehongliad y cyngor o’r rheoliadau, gallwch apelio i’r Ysgrifennydd Gwladol am ‘Benderfyniad’.

Q. A oes rhaid i mi ddweud wrth fy nghymdogion am fy nghynlluniau adeiladu?

A. Oes. Dylech drafod unrhyw waith adeiladu arfaethedig â’r cymdogion hynny y mae’n fwyaf tebygol o effeithio arnynt – naill ai oherwydd yr adeiledd wedi’i orffen neu’r broses adeiladu drwy bethau fel sŵn neu lwch.

Ac os yw’r gwaith yn ymwneud â waliau neu ffiniau yr ydych yn eu rhannu, efallai y bydd angen i chi gael cytundeb ffurfiol eich cymydog hefyd drwy gytundeb wal gydrannol. Gweler canllawiau’r DCLG.

Q. Beth ddylwn i ei wneud os yw’r gwaith wedi mynd o chwith?

A. Os oes cwyn am eich gwaith adeiladu eich hun, dylech drafod y peth â’ch adeiladwr yn gyntaf. Cofiwch ddefnyddio adeiladwr dibynadwy sy’n aelod o gymdeithas fasnach – megis Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr (FMB). Mae’r gymdeithas honno wedi cyhoeddi trefn gwyno sy’n amlinellu beth y gallwch ei wneud os yw eich gwaith adeiladu wedi mynd o chwith.

Mae timau rheolaethi adeiladu cynghorau lleol yn archwilio gwaith adeiladu ac yn ardystio ei fod yn bodloni safonau adeiladu. Os gwelant nad yw’r gwaith yn cyrraedd y safonau cyfreithiol gofynnol, mae ganddynt y pŵer i fynnu bod yr adeiladwr yn sicrhau ei fod yn cyrraedd y lefel ofynnol. Felly, os ydych yn pryderu am safon y gwaith ar eich safle adeiladu dylech gysylltu â thîm rheolaethi adeiladu’r cyngor lleol i drafod eich pryderon.

I gael cyngor cyffredinol am hawliau defnyddwyr o ran gwaith adeiladu, cysylltwch â’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Q. A oes cosbau am beidio â chydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu?

A. Oes. Os yw tîm rheolaethi adeiladu eich cyngor lleol yn barnu nad yw’r gwaith yn cyrraedd y safon, mae ganddynt bwerau i’ch gorchymyn chi i ddymchwel neu newid y gwaith. Mae achosion difrifol a mynych o fethu â bodloni safonau adeiladu’n gallu arwain at achos cyfreithiol a dirwy.

Q.Beth yw’r Rheoliadau Adeiladu a ble gallaf i gael copi?

A. Caiff y rheoliadau eu hegluro ymhellach gyda chanllawiau perthnasol mewn cyfres o ‘Ddogfennau Cymeradwy’ sy’n rhoi sylw i wahanol agweddau ar adeiladu ac adeiladwaith:

  1. A  Adeiledd
  2. B  Diogelwch tân
  3. C  Paratoi’r safle a gwrthsefyll halogion a lleithder
  4. D  Sylweddau gwenwynig
  5. E  Atal sain rhag mynd drwodd
  6. F  Awyru
  7. G  Glanweithdra, diogelwch dŵr poeth ac effeithlonrwydd dŵr
  8. H  Draenio a gwaredu gwastraff
  9. J  Offer hylosgi a systemau storio tanwydd
  10. K  Amddiffyn rhag disgyn, gwrthdrawiadau ac ardrawiadau
  11. L  Cadwraeth tanwydd a phŵer
  12. M  Mynediad i’r adeiladau a’u defnyddio
  13. P  Diogelwch trydanol

Gellir lawr- llwytho’r dogfennau drwy ddefnyddio’r ddolen hon

Nid yw’r canllawiau yn y dogfennau’n statudol, ac nid oes rhaid eu dilyn. Os hoffech ddylunio ac adeiladu eich gwaith adeiladu mewn rhyw ffordd arall, cewch wneud hynny cyn belled â’ch bod yn gallu dangos ei fod yn dal i gydymffurfio â gofynion perthnasol y rheoliadau. Ystyrir y canllawiau yn y Dogfennau Cymeradwy wrth ystyried a yw cynlluniau eich gwaith arfaethedig, neu’r gwaith sydd wedi’i ddechrau, yn cydymffurfio â gofynion penodol. Hefyd, os ydych wedi dilyn y canllawiau yn y dogfennau, ystyrir yn gyfreithiol bod hyn yn dystiolaeth bod eich gwaith wedi cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu.